Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (232)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.5 i Sefydlu Pwyllgor o’r Cynulliad (5 munud) NDM5634 Jane Hutt AC (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.5:
1. Yn sefydlu Pwyllgor ar amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol; a
2. Yn cytuno mai cylch gwaith y Pwyllgor yw craffu ar y polisi a’r ystyriaethau deddfwriaethol sy’n ymwneud â chael gwared â’r amddiffyniad “cosb resymol” mewn cysylltiad â churo plentyn, yn sgîl adran 58 o Ddeddf Plant 2004. Bydd y Pwyllgor yn cael ei ddiddymu yn dilyn y ddadl ar ei adroddiad. |
4 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth (30 munud)
|
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Imiwneiddio - cynnydd a brechiadau (30 munud)
|
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Rhaglen Twf Swyddi Cymru yn y Dyfodol (30 munud)
Dogfen Ategol Gwerthusiad o Twf Swyddi Cymru
|
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Hawliau Defnyddwyr: Gwelliannau mewn perthynas â Ffioedd Asiantaethau Gosod (15 munud) NDM5626 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Hawliau Defnyddwyr sy’n ymwneud â ffioedd asiantaethau gosod, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Hydref 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/consumerrights.html (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
|
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – darpariaethau sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant (15 munud)
NDM5627 Julie James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Cewch gopi o'r Bil ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
|
9 Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (60 munud) NDM5632 Leighton Andrews (Rhondda) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).
Gosodwyd Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Mehefin 2014.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014.
Dogfennau Ategol Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
10 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (5 munud) NDM5633 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
|
11 Dadl: Effaith Diwygiadau Lles Llywodraeth y DU yng Nghymru (60 munud) NDM5631 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a
b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol.
Mae’r cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol i’w gweld drwy’r ddolen hon: https://www.gov.uk/government/news/plans-announced-for-accelerated-rollout-of-universal-credit-after-success-in-north-west (Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol Dadansoddi effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt a) a rhoi yn ei le:
y mabwysiadwyd y diwygiadau lles a weithredwyd gan Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau ac i sicrhau na all unrhyw un ennill mwy ar fudd-daliadau nag y mae'r teulu cyffredin yn ennill drwy fynd allan i weithio; a
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai nod credyd cynhwysol yw lleihau tlodi, drwy wneud i waith dalu, a helpu hawlwyr a'u teuluoedd i fod yn fwy annibynnol.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai rhewi budd-dal plant yn niweidiol i'r nod o ddileu tlodi plant.
|
12 Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2014